Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Chwefror 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynyddu'r cap ffioedd dysgu a thorri grantiau cymorth ôl-raddedig ar y nifer tebygol o fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgolion Cymru?
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i gynnal gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru cyn i Lywodraeth Cymru ddyrannu cyllid canlyniadol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Ionawr 2024?
(5 munud)
(60 munud)
NDM8477 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024.
(60 munud)
NDM8479 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu, er bod angen o leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf.
2. Yn cydnabod ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n wirioneddol wag yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu tasglu penodedig o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r perfformiad arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor;
b) cefnogi datblygwyr bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac
c) troi eiddo gwag yng Nghymru yn ôl i fod yn gartrefi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd; a
b) 11,273 o unigolion mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.
2. Yn gresynu:
a) mai dim ond 5,775 o unedau mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon; a
b) bod dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent wedi eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol.
3. Yn credu:
a) mai'r ateb i argyfwng tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac i'w prynu; a
b) y bydd sicrhau cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.
4. Yn croesawu'r:
a) ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fwy fforddiadwy; a
b) diwygio radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd neu ragori ar y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.
3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
(60 munud)
NDM8478 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymdrechion arwrol staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.
2. Yn nodi blwyddyn ers i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.
3. Yn credu bod:
a) canlyniadau iechyd wedi gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a
b) methiant i weithredu ar y blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o statws uwchgyfeirio.
4. Yn gresynu:
a) bod nifer y llwybrau cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 731,102 ym mis Chwefror 2023;
b) mai 53.5 y cant o gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62 diwrnod ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023;
c) mai nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a
d) mai 66.7 y cant o gleifion dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a
b) datgan argyfwng iechyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) ar ddiwedd mis Tachwedd 2023, mai canran y llwybrau agored a oedd yn aros llai na 104 wythnos oedd 96.7%, sef yr 20fed gwelliant yn olynol a'r uchaf y mae wedi bod ers Awst 2021;
b) yn 2023, bod nifer cyfartalog y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser bob mis wedi cynyddu 53% ers 2020;
c) ym mis Tachwedd 2023, bod bron i 14,800 o bobl a atgyfeiriwyd oherwydd amheuaeth o ganser wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt, sef yr ail uchaf ar gofnod;
d) bod mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn gweithio yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol – cynnydd o 0.9%; ac
e) bod y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer mis Rhagfyr 2023 yn dangos lleihad o 51% yn y perfformiad o ran amser ymateb cyfartalog ambiwlansys i alwadau oren, gwelliant o 29% yn y perfformiad o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a gostyngiad o 20% yn nifer y cleifion sy'n treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn neu eu rhyddhau; o'i gymharu â'r un mis yn 2022.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
datblygu a chyflwyno cynllun gweithlu ar gyfer GIG Cymru;
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
gosod targed i ddileu amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Medi 2024 a chreu tasglu i'w gyflawni;
(30 munud)
NDM8476 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Mynediad cyflymach at wasanaethau clyw yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Chwefror 2024